Shirley Jones: 30 Mlynedd o Wasg Red Hen
[delwedd: Nocturne for Wales (Wasg Red Hen, 1987), Glofa Cwmparc, Cwm Rhondda © Shirley Jones]
Shirley Jones, Nocturne for Wales (Wasg Red Hen, 1987)
Glofa Cwmparc, Cwm Rhondda © Shirley Jones
Llyfrau artistiaid gan yr artist Cymreig rhyngwladol ei bri.
Artist, awdur ac argraffydd yw Shirley Jones. Am 30 mlynedd yn ei gwasg Red Hen Press ym Mhowys, mae wedi bod yn creu argraffiadau cyfyngedig o lyfrau argraffwaith sy’n cyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith law yn llaw ag ysgythriadau a mesotintiau.
Mae pob un o lyfrau Jones yn gysyniad cyflawn – rhoddir yr un ystyriaeth i’r dewis o bapur a ffurfdeip, asio’r testun a’r delweddau a phwysigrwydd y rhwymiad, ac a roddir i’r creadigrwydd gweledol a llenyddol.
Mae ei gwaith wedi ennyn canmoliaeth beirniaid ac fe’i gesglir ym mhob cwr o’r byd.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau