Pawb / Am ddim
Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi i Fae Abertawe
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Rha 17 2012–Maw 10 2013 2013,
10am-5pm
[delwedd: ]
Defnyddio gwybodaeth i weddnewid yr economi
Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi i Fae Abertawe
Bwriad Prifysgol Abertawe yw datblygu Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi gwerth £250m ar Ffordd Fabian fel rhan o gynllun ailddatblygu sylweddol. Bydd y datblygiad yn cael effaith sylweddol ar economi Bae Abertawe ac yn creu campws ymchwil, arloesi ac addysg gyda’r gorau yn y byd. Mae’r arddangosfa’n rhoi manylion am y datblygiadau ar y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi ac yn esbonio sut y bydd hyn, ynghyd ag ailddatblygu’r campws presennol ym Mharc Singleton, yn gweddnewid byd gwaith yn Ne Cymru o ddiwydiannau trwm traddodiadol yn economi sy’n seiliedig ar wybodaeth.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau