Adnabod yr Artist: Jonah Jones
[delwedd: Yr artist wrth ei waith, 1989. Ffotograff: Robert Greetham]
Yr artist wrth ei waith, 1989
Ffotograff: Robert Greetham
Dywedai Jonah Jones (1919-2004) ei hun fod y gair ysgrifenedig a’i amrywiol ffurfiau yn greiddiol i’w gelf a’i fywyd, a chyflwyniad i’w waith yw’r arddangosfa hon.
Ganwyd Jonah Jones i deulu o lowyr yng ngogledd ddwyrain Lloegr ond symudodd yr artist – a ddysgodd y grefft ei hun – i Gymru ym 1948.
Wedi astudio cerflunio yng ngweithdy Eric Gill yn Pigotts, ymsefydlodd ym Mhentrefelin, Sir Gaernarfon cyn symud i dˆy newydd a adeiladodd uwchlaw aber Afon Dwyryd, ger Portmeirion. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Llandaf ger Caerdydd.
Er taw canolbwynt ei waith oedd arysgrifio mewn carreg, roedd yn gerfluniwr amryddawn a weithiai ar ffigyrau coffaol (gan gynnwys y ffigyrau ar gornel gogleddorllewinol yr adeilad hwn) a cherfweddau haniaethol mawr, penddelwau a ffigyrau bach cerfiedig.
Yn y 1960au trodd ei law hefyd at wydr lliw a murluniau mosaig. Gweithiodd gyda phaent dyfrlliw drwy gydol ei fywyd, gan droi yn ei flynyddoedd olaf at baentio testunau.
Fel artist a chrefftwr, byddai Jonah yn llunio llythrennau oedd yn ffurfio geiriau.
Byddai’n ysgrifennu ei hun ac roedd ganddo nifer o gyfeillion llenyddol.Daeth yn athro pan yn ganol oed gan wasanaethu fel Cyfarwyddwr Coleg Celf a Dylunio Cenedlaethol Iwerddon.
Roedd yn wˆr hynod grefyddol gai ei ysbrydoli gan air Duw, ac yn genedlaetholwr o Gymro oedd wrth ei fodd â sain a straeon yr iaith Gymraeg.
Sgyrsiau amser cinio am 1.05pm
11 Ionawr 2013
Peter Jones: ‘Jonah Jones Y Gair – the Word: Cyflwyniad i’r Arddangosfa’.
18 Ionawr 2013
Yr Athro Tony Curtis: ‘Jonah Jones a delwedd ysgrifennu’.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau