Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth y Dderbynfa
Tu ôl i’r Llenni: Archaeoleg
25 Meh,
1.05pm
[delwedd: Fforwm-basilica Rhufeinig yng Nghaer-went, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1955.]
Rhufeinig
Fforwm-basilica Rhufeinig yng Nghaer-went, Sir Fynwy; gan Alan Sorrell, 1955.
Ystafell Astudio Arteffactau
Cyfle i weld rhai o’r darganfyddiadau o’r tŷ o amgylch iard yng Nghaerwent, a dysgu beth allant eu dysgu wrthon ni am fywyd mewn tŷ Rhufeinig yng Nghymru.
Mae’r tŷ, a adeiladwyd yn nechrau’r bedwaredd ganrif OC, yn un o’r mwyaf yn y dref Rufeinig i gael ei ddadorchuddio.
Roedd yn gartref moethus gydag ystafelloedd wedi gwresogi (hypocausts), mosaigau a waliau a nenfydau wedi’u paentio. Mae’n rhaid bod y trigolion yn deulu o gryn statws.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau