Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth y Dderbynfa
Tu ôl i'r Llenni: Daeareg
11 Meh,
1.05pm
Dewch i ymweld â’r Adran Ddaeareg i gwrdd â’n gwyddonwyr, dysgu mwy am eu gwaith ymchwil a gweld sut maent yn gofalu am y miloedd o wrthrychau sydd dan eu gofal ac yn cadw cofnod ohonynt.
Dewch i weld sut rydym ni’n storio miloedd o greigiau, ffosilau a mwynau. Cewch ymweld â’n labordai hefyd i weld sut rydym ni’n paratoi ffosilau ac yn eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, neu sut rydym ni’n adnabod creigiau a mwynau.
Bydd cynnwys y teithiau’n amrywio bob mis, felly dewch yn ôl i ddysgu mwy!
Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd, ffoniwch (029) 2057 3000 am gyngor.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau