Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth y Dderbynfa
Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
22 Mai,
1.05pm
Gwaith cloddio archaeolegol o dai crwn arbrofol
Mae tai crwn Oes Haearn a grëwyd at ddibenion addysgol ar safleoedd treftadaeth yn rhoi cyfle i ni ehangu ein gwybodaeth o ffurfiant y cofnod archaeolegol, a’r micro-olion a llofnodion geogemegol a adewir gan batrymau gweithgarwch.
Yn y sgwrs hon, y prif enghraifft fydd cloddiad tŷ Moel-y-Gaer sy’n rhan o Bentref Celtaidd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Fe’i adeiladwyd ym 1992 gan Dr P. J. Reynolds, arloeswr archaeoleg arbrofol ym Mhrydain, a’i adnewyddu yn 2009 yn dilyn difrod oherwydd storm.
Gyda'r Athro Martin Bell, Pennaeth Archaeoleg, Prifysgol Reading.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau