Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
‘Technoleg neu ddylunio? Addurno gwaith metel yn y ganrif gyntaf OC’
Pam, a sut, gafodd gwaith metel ei addurno mewn ardaloedd ym Mhrydain gan fynd yn groes i Rufain?
Trwy astudio gwrthrychau o’r fath, gallwn ddysgu llawer am y cymdeithasau cynhenid amrywiol fyddai’n eu cynhyrchu. Gallwn ddysgu hefyd am y ffyrdd y bu’n rhaid iddynt addasu i newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd enfawr a ddaeth ar eu hynt o’r cyfandir.
Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar ddadansoddi Celc Blaendulais er mwyn esbonio arddull, technoleg ac arferion ddiwedd yr Oes Haearn yng Nghymru.
Gyda Mary Davis, Uwch Gadwraethydd, Adran Archaeoleg.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





