Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
O’r bwrdd arlunio i’r bwrdd gwaith: Ailystyried Cribau Llychlynnaidd.
Yn aml iawn, nid oes digon o werth yn cael ei roi ar rôl y darlunydd wrth ddeall deunydd archaeolegol. Wrth ei gyfuno â sgiliau cynhyrchu crefft, gall roi cipolwg newydd i ni ar wrthrychau.
Bydd Ian Dennis yn trafod datblygiad project ymchwil sy’n canolbwyntio ar gynhyrchiad cribau cyrn carw Llychlynnaidd ar safle Bornais, De Uist, Ynysoedd y Gorllewin, yr Alban.
Dyma’r safle gweithio cribau Llychlynnaidd mwyaf ym Mhrydain tu hwnt i ganolfannau trefol fel Efrog a Dulyn.
Mae darluniau o gribau cyrn carw Llychlynnaidd, darnau o gribau a gweddillion cynhyrchu cribau o Bornais wedi datgelu nifer o farciau offer a thechnegau atgynhyrchu sydd wedi rhoi manylion newydd i ni am ddulliau cynhyrchu.
Mae wedi dod i’r amlwg fod gan y Llychlynwyr ddefnydd o ystod eang o offer arbenigol o ansawdd uchel nad ydynt wedi goroesi, neu sydd heb eu hadnabod yn y cofnod archaeolegol.
Gyda Ian Dennis, Darlunydd Archaeolegol, Prifysgol Caerdydd.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





