Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg

O ganlyniad i weithredu diwydiannol ar draws Prydain gan PCS ar ddydd Mercher 20 Mawrth, bydd y saith amgueddfa genedlaethol ar gau ar y diwrnod hwnnw.
Ynys Oes yr Iâ: Canfyddiadau Newydd ym maes Archaeoleg Neanderthal a Helwyr-Gasglwyr Modern yn Jersey.
Mae’r Neanderthaliaid yn cynrychioli arbrawf dynol llwyddiannus ac unigryw.
Esblygodd y Neanderthaliaid yn llinach ddynol unigol dros hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ymddengys iddynt ddiflannu’n llwyr tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn nhw’n byw mewn rhannau helaeth o Ewrop a gorllewin Asia, gwnaethant ddatblygu offer soffistigedig, dysgu sut i reoli tân a hela mamaliaid mawr mewn gwahanol amgylcheddau.
La Cotte de St Brelade, ar Jersey, un o Ynysoedd y Sianel, yw un o’r safleoedd gorau yn y byd os am ddeall Neanderthaliaid a’u gorchestion. Yn y ddarlith hon, bydd Matt Pope yn adrodd hanes y gwaith sy’n cael ei gynnal ar y safle pwysig hwn ac mewn lleoliadau eraill ar yr ynys.
Bydd yn cyflwyno’r canfyddiadau diweddaraf sy’n taflu goleuni newydd ar esblygiad a thynged ein perthynas esblygiadol agosaf, yn ogystal ag addasiadau ein rhywogaeth ni i amgylcheddau garw oes yr iâ a sialensiau newid yn yr hinsawdd.
Gyda Dr Matthew Pope, Uwch Gymrawd Ymchwil/Dysgu, y Sefydliad Archaeoleg.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





