Oedolion / Am ddim / Rhaid archebu wrth y Dderbynfa
Tu ôl i’r Llenni: Bioamrywiaeth
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 5 Maw 2013,
1.05pm
Dychmygwch yr olygfa pan oedd llethrau’r Wyddfa dan drwch o iâ a rhewlifoedd, neu filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd dan gynfas o goed collddail?
Gall archwilio paill ein helpu i ail-greu llystyfiant y gorffennol.
Bydd y daith hon yn eich cyflwyno i’r dechneg o ddadansoddi paill a defnyddio tystiolaeth fotanegol, gan gynnwys paill a macroffosilau, i ail-greu amgylcheddau a phlanhigion y gorffennol, yn Eryri yn benodol.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu am y rhaglen ymchwil gyfredol o fonitro dyddodiad paill yn Eryri a gynhelir gan uned Hanes Llystyfiant yr Amgueddfa.
Dewch i ddysgu mwy a defnyddio microsgopau gyda’n harbenigwr i edrych ar wahanol fathau o baill.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau