Taith Gerdded – Mynydd Cilfái
Dringwch Fynydd Cilfái i weld golygfeydd gwych o’r Abertawe Hanesyddol a Bae Abertawe.
Dan arweiniad yr hanesydd lleol a thywysydd bathodyn gwyrdd, Alun Jones.
Rhaid archebu lle. Ffoniwch (029) 2057 3600.
Taith: caregog â llethrau
Cyfarfod: Maes parcio’r Garreg Wen.
Dilynwch yr A4217 allan o Abertawe ar ochr ddwyreiniol y Tawe. Ychydig cyn y cylchfan cyntaf yn Hafod, trowch i’r dde a dilyn y B5444 i Fon-y-maen a throi i’r dde’n syth i mewn i’r maes parcio.
Nodyn pwysig: cofiwch wisgo’n addas ar gyfer yr awyr agored. Gwisgwch esgidiau addas a chofiwch y gall y llawr fod yn wlyb, llithrig ac anwastad.
O gymryd rhan, byddwch yn gwneud hynny ar eich risg eich hun. Y bwriad yw cynnal y daith boed law neu hindda ond, os ydych yn ansicr, ffoniwch yr Amgueddfa ar (029) 2057 3600.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





