Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio
Y Sioe Wyddoniaeth: Gwyddoniaeth Chwaraeon
19 Mai,
3.30pm
O’r eiliad y chwythir y chwiban, gall gwyddoniaeth effeithio ar eich gallu wrth chwarae.
Sut mae pobl yn cadw’u cydbwysedd? Beth sy’n gwneud iddynt gwympo? Beth sy’n digwydd pan fydd pêl yn bownsio a pham bod angen arwynebau gwahanol ar wahanol beli?
Sut mae ffrithiant yn ddefnyddiol ym myd chwaraeon a sut mae defnyddio gwyddoniaeth i’n diogelu rhag anafiadau?
Gwyliwch gwpanau plastig yn gwneud dolen a cheisiwch weithio allan beth yw’r tric yn y gêm o griced gwallgof.
Feiddiwch chi eistedd ar gadair hoelion?
Mae’r sioe gyffrous a rhyngweithiol hon yn gofyn i’r gynulleidfa gymryd rhan a gweld chwaraeon mewn goleuni gwbl newydd. Byddwch yn barod i gymryd rhan!
Darperir gan Science made Simple.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau