Y Sioe Wyddoniaeth: Car Uwchsonig Bloodhound!
Ymunwch â ni ar daith gyffrous, gyflym a rhyngweithiol arbennig!
Byddwn yn archwilio’r wyddoniaeth a’r dechnoleg a ddefnyddiwyd i adeiladu car sy’n gallu teithio ar gyflymdra o dros 1000mya ac yn edrych yn ôl ar y rhesymau dros fethiant rhai ymgeisiau i dorri record cyflymder tir y byd.
Pa sialensiau sy’n codi wrth adeiladu car sy’n gallu teithio’n gyflymach na bwled? Cewch weld profion roced, effaith llusgiant a’r mathemategwr cyflymaf yn y byd!
Darperir gan Engineering Explained.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





