Noson yn yr Amgueddfa - Uwcharwyr!

Gwisgwch i fyny fel eich hoff arwr am gyfle prin i ymweld â'r Amgueddfa wedi i bawb arall adael.
Bydd llond lle o hwyl a sbri yn ein noson o arwyr arbennig!
Cymrwch ran mewn gweithgareddau ymarferol cyn gwylio The Incredibles yn ein horiel yng nghanol y gwrthrychau hanesyddol!
The Incredibles (U, 2004) Rhaid i deulu o uwcharwyr anghofio'u bywyd teuluol tawel i achub y byd.
(115 munud)
£2 y pen. Rhaid archebu lle. Ffoniwch (029) 2057 3600.
Rhan o Amgueddfeydd Liw Nos 2013.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





