Gwyddoniaeth Stryd: Rap y Gofod
Y mis hwn, ymunwch â’r rapiwr gwyddoniaeth Jon Chase wrth iddo archwilio perthynas y Ddaear a’r gofod.
Bydd Jon yn cyflwyno pob syniad drwy ei rapiau enwog, gan gyflwyno syniadau newydd mewn ffordd newydd.
Pam fod siapiau gwahanol ar y lleuad? Beth yw’r haul? Sut mae disgyrchiant yn effeithio arnom ni?
Pam fod y Ddaear yn arbennig? Galwch draw i glywed yr atebion i’r holl gwestiynau hyn, a llawer mwy!
Addas i blant 7-12 oed.
Rhaid archebu lle. Ffoniwch (029) 2057 3600.
Gwyddoniaeth Stryd – cipolwg o’r newydd ar wyddoniaeth, a thema wahanol bob mis.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





