Gwneud a Thrwsio - Blychau Storio a Chambrenni

Twriwch trwy fasgedi o hen betheuach a’u troi’n rhywbeth newydd a gwahanol yn ein gweithdai ailgylchu misol i oedolion.
Y mis hwn, byddwn yn eich helpu i greu blychau storio hardd. Gan ddefnyddio hen bapur wal a deunyddiau, byddwn yn gweddnewid hen flychau’n drysorau dal dillad ac yn addurno cambrenni pren i arddangos eich hoff ffrogiau.
Darperir deunyddiau / Croeso i bawb o bob gallu.
Rhaid archebu lle. Ffoniwch (029) 2057 3600. Archebwch o ddydd Llun 8 Ebrill.
Sylwer: mae’r sesiynau hyn ar gyfer oedolion yn unig (oed 16+), am fanylion sesiynau crefft i blant a theuluoedd ffoniwch (029) 2057 3600.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





