Pawb / Am ddim / Galw heibio
Dydd Sul Hau a Thyfu
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 7 Ebr 2013,
11.30am – 4pm
[delwedd: ]
Dyma ddiwrnod llawn hwyl i baratoi ar gyfer y gwanwyn.
Casglwch gyngor a gwybodaeth gan staff Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Rhyfeddwch at ein sbesimenau planhigion sydd wedi teithio o gartref y casgliadau yng Nghaerdydd.
Cyfnewidiwch eich hadau a chynllunio ar gyfer y tymor i ddod gyda Gr?p Garddio Organig Abertawe a’r Cylch.
Prynwch lyfr garddio o ddetholiad arbennig o lyfrau ail-law diolch i Oxfam Cymru.
Twriwch am offer garddio gan Tools for Self Reliance Cymru, fydd yn gwerthu eu hystod arbennig o offer da wedi’u hatgyweirio gan gynnwys offer garddio, gwaith pren gwyrdd, gwaith coed, gwaith t? yn ogystal ag offer Masnach Deg a wnaed gan ofaint yn Tanzania.
Bydd cyfle i blant roi tro ar grefftau hefyd!
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau