Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim / Galw heibio

Ffilm Llun y Pasg: Singin' in the Rain (U, 1952)

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 1 Ebr 2013, 2pm

Dyma hanes Don Lockwood, seren ffilmiau mud nad oes arno angen unrhywbeth – mae’n enwog, yn boblogaidd ac mae mewn cariad â’r actores Lina Lamont.

Mae si ar led y gall sain gael ei ychwanegu at ffilmiau gan weddnewid y diwydiant a bywydau’r actorion, ac maen nhw i gyd, gan gynnwys Don, yn nerfus.

Ond beth yn y byd all fynd o’i le mewn byd lle mae’r actorion yn siarad ac yn canu a’u lleisiau i’w clywed yn glir?

Mae Singin' in the Rain yn glasur o ffilm gerdd ac mae dawns enwog seren y sioe Gene Kelly gyda’r eiliadau mwyaf cofiadwy yn hanes sinema.

(98 munud)