Gwerth y Glo – Sioe Deithiol Hanes Anabledd
Dewch i ddysgu mwy am fywydau caled ein tadau a’n teidiau wrth eu gwaith ym mherfeddion y ddaear wrth wynebu perygl, salwch a marwolaeth bob dydd. Dyma’r pris a dalwyd am lo.
Bydd y sioe deithiol yn canolbwyntio ar gostau dynol y diwydiant peryglus hwn ac yn gofyn beth yw canlyniadau hyn i gymunedau glo’r De.
Bydd sgyrsiau, ffilmiau dogfen, lluniau a dogfennau archif, offer cloddio ac archifwyr wrth law i ateb eich cwestiynau.
Lawrlwythwch rhaglen o'r diwrnod
Ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Wellcome.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





