Y Sioe Wyddoniaeth – Cemeg a Goleuni
I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg - Enfys, Golau a Laser!
Ymunwch â Dr Peter Douglas a Dr Mike Garley (Prifysgol Abertawe) i rannu eu brwdfrydedd am wychder gwyddoniaeth yn y sioe gyffrous a doniol hon. Byddant yn dangos sut mae cemeg a goleuni yn cymysgu yn ein bywydau bob dydd.
Bydd y sioe hynod, sy’n cynnwys dros 30 o arddangosiadau ymarferol, yn tynnu sylw at bwysigrwydd ffotocemeg i’n byd.
Mae Dr Peter Douglas a Dr Mike Garley yn traddodi’r ddarlith ‘Cemeg a Goleuni’ yn rheolaidd i gynulleidfaoedd yn y DU ac Ewrop.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





