Cadlywyddion y Canol Oesoedd – y Da a’r Drwg
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Gwilym Goncwerwr, Rhisiart Lewgalon, Harri V; rydyn ni oll yn gyfarwydd â chadlywyddion enwog y Canol Oesoedd.
Ond beth yn wir oedd y rheswm dros eu henwogrwydd? Oedd bod yn rhyfelwr mawrfrydig cyn bwysiced â bod yn oportiwnydd didrugaredd? Oedd cadlywyddion fel Ioan ac Edward II mor ddrwg â’r dweud?
Ac os felly, pam? Bydd y sgwrs hon yn herio’r hen gredoau am ryfela’r canol oesoedd a hefyd yn trafod rhai o gadlywyddion llai adnabyddus y cyfnod.
Sgwrs gan Sean McGlynn (Prifysgol Plymouth)
Mae Sean McGlynn yn ddarlithydd hanes ac yn awdur toreithiog ar ryfela’r canol oesoedd.
Mae ei lyfrau’n cynnwys By Sword and Fire: Cruelty and Atrocity in Medieval Warfare, Blood Cries Afar: The Forgotten Invasion of England 1216 a Medieval Generals.
Trefnwyd gan y Gymdeithas Hanesyddol.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau