Gwneud a Thrwsio: Crefftau Oelcloth
Twriwch trwy fasgedi o hen betheuach a’u troi’n rhywbeth newydd a gwahanol yn ein gweithdai ailgylchu misol i oedolion.
Y mis hwn, byddwn yn dathlu’r defnydd sy’n ffasiynol unwaith eto – oelcloth! Ymunwch â ni i greu bag ymolchi, pwrs syml neu gasyn i’ch iPad gan ddefnyddio hen fotymau, rhubanau ac addurniadau.
Darperir deunyddiau / Croeso i bawb o bob gallu.
Rhaid archebu lle. Ffoniwch (029) 2057 3600. Archebwch o ddydd Llun 4 Chwefror.
Sylwer: mae’r sesiynau hyn ar gyfer oedolion yn unig (oed 16+), am fanylion sesiynau crefft i blant a theuluoedd ffoniwch (029) 2057 3600.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





