Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim / Rhaid archebu

Joan Fontcuberta: Ffotograffiaeth Mewn Argyfwng

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 17 Hyd 2012, 5.45pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Joan Fontcuberta, GOOGLEGRAM: NIEPCE, 2004 (manylyn). Trwy garedigrwydd yr artist.

Joan Fontcuberta, GOOGLEGRAM: NIEPCE, 2004 (manylyn). Trwy garedigrwydd yr artist.

Joan Fontcuberta, GOOGLEGRAM: NIEPCE, 2004. Trwy garedigrwydd yr artist

Joan Fontcuberta, GOOGLEGRAM: NIEPCE, 2004. Trwy garedigrwydd yr artist.

Darlithfa Reardon Smith. Drysau ar agor o 5.15pm.

Mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru a’r Ganolfan Ewropeaidd dros Ymchwil Ffotograffig (eCPR), Prifysgol Cymru, Casnewydd lansio cyfres o ddarlithoedd am ddim yn ymdrin â ffotograffiaeth a’r Amgueddfa.

Bydd yr artist blaenllaw o Sbaen, Joan Fontcuberta, yn lansio’r gyfres drwy fyfyrio ar ei gasgliad golygedig ‘Photography - Crisis in History’ o 2002.

Roedd y llyfr yn ymdrin â’r her sylweddol o gynhyrchu hanes neu archaeoleg ffotograffiaeth. Yn y ddarlith hon bydd yn edrych o’r newydd, wedi 10 mlynedd, ar y berthynas gymhleth hon mewn oes newydd sy’n gaeth i’r rhyngrwyd a diwylliant digidol.

Wedi gweithio ym myd ffotograffiaeth am bron i ddeugain mlynedd, mae Fontcuberta wedi datblygu gwaith artistig a theoretig sy’n canolbwyntio ar y gwrthdaro rhwng natur, technoleg, ffotograffiaeth a gwirionedd.

Mae’r gyfres o darlithiau yn cyd-fynd â phroject mawr yr Amgueddfa i fynd ati i weithio ar ei chasgliadau ffotograffig hanesyddol cyfoethog ac amrywiol – project y medrwyd ei wireddu diolch i rodd sylweddol gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

Mewn partneriaeth â eCPR ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd, bydd y darlithoedd yn adlewyrchu gwaith cyffrous yr Amgueddfa rhwng 2012 a 2015.

Mae’r digwyddiad AM DDIM ond rhaid archebu lle gan fod nifer cyfyngedig o lefydd.

Er mwyn archebu ebostiwch Historic.Photography@amgueddfacymru.ac.uk gan adael eich enw a rhif cyswllt.

Bydd rhaglen lawn o’r darlithoedd sydd i ddod ar gael yn fuan.