Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

BLING!

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 15 Medi4 Tach 2012, Dysgu drwy creadigwrydd a diwylliant!
BLING BANGOR
BLING HEADER

Mae BLING – dysgu drwy creadigwrydd a diwylliant, yn edrych ar sut y caiff metel gwerthfawr, trysor ac addurn eu defnyddio i gyfleu chwaeth, delwedd a statws personol.

Mewn prosiect cenedlaethol led-led Cymru, gweithiodd gr?piau gwahanol gydag artist i greu eu ‘bling’ eu hunain – unrhywbeth o fodrwy syml i fwclis mawr cymhleth neu fideos cerddoriaeth a chelf graffiti.

Cafodd y grwpiau gyfle i weld tu ôl i’r llenni yn yr amgueddfa ac mae’r gwaith sydd yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Lechi gan griw o bobl ifanc o Fangor, Gwynedd, wedi cael ei ysbrydoli gan greiriau ac arteffactau yn y casgliad – pethau sydd yn cael eu cysidro’n drysorau o wahanol fath.

Un o’r casgliadau a ysbrydolodd y criw yn fawr iawn oedd y casgliad patrymau pren  a mowldiau sydd gan yr amgueddfa ynghyd hefyd a’r tai Chwarelwyr ac mae’r arddangosfa  sydd wedi ei greu yn adlewyrchu’r gwahaniaethau mawr oedd rhwng swperi syml y chwarelwyr o fechdan gyda caws neu jam i’r ciniawa moethus fyddai’r perchnogion yn eu mwynhau.

Esboniodd yr artist Mari Gwent ymhellach: 
“Tra bod y chwarelwyr yn gwneud y gwaith caled o greu y mowldiauar gyfer castio offer trwm roedd y boneddigion wrthi’n gwledda ar jeli a blancmange allan o fowldiau tsienau o’u ceginau anferth.
Mae’r gwaith grwp ‘Bwrdd Bwyd’ yn deyrnged i’r chwarelwyr. Bwrdd hir yn llawn danteithio moethus o bob math rhai wedi’u mowldio a rhai wedi’r cerfio’n gywrainyn null celf gwerin y 19eg ganrif. Mae pob darn yn wahanol ond fod i bob un y cynhwysion pwysicaf ol – llechen!