Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

HELFA GELF

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 15 a 16 Medi 2012, 11am - 4pm

 

Dewch i fwynhau gwaith yr artist ffibr lleol Alison Mercer a’r ffotograffydd Vivienne Rickman-Poole a fydd yn creu gweithiau gosod unigryw yn Amgueddfa Lechi Cymru fel rhan o gynllun poblogaidd yng ngogledd Cymru, Stiwdios Agored.

Bydd Alison yn arddangos detholiad o’i gwaith yn y T? Fictoraidd a bydd Vivienne yn gweithio yn y sied baent fach yn y brif iard gan annog ymwelwyr i edrych ar eu gwaith a thrafod eu celf a’u syniadau.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Alison wedi arddangos yn Fiberart International, FibrePhiladelphia, SOFA (Sculptural Objects and Fine Art Fair) yn Efrog Newydd ac yn Santa Fe yn yr Unol Daleithiau. Bydd hi hefyd ar daith gyda Celf Ffibr Cymru a’r arddangosfeydd ‘Conversations’ a ‘Dialogues’ yn ystod 2012/2013. Mae Alison yn teimlo’n gyffrous am gael creu gwaith celf yn Amgueddfa Lechi Cymru ac yn bwriadu defnyddio’i hamser yma’n creu gwaith celf newydd sy’n seiliedig ar gasgliadau’r Amgueddfa.

Mae Vivienne yn arbrofi gyda chyfuniad o gamerâu cartref, ‘vintage’ a thegan gan archwilio’r posibiliadau creadigol ac addasu’r rhannau a’u systemau mewnol. O bryd i’w gilydd, bydd yn camu i’r byd digidol gan addasu’r hen a’r newydd er mwyn iddynt weithio ar y cyd. Dyma fydd trydedd flwyddyn Vivienne gyda’r Helfa Gelf yn yr Amgueddfa. Mae’r Chwarel a’r Amgueddfa’n ysbrydoliaeth ddi-ben-draw iddi yn ei gwaith. Yn ddiweddar, roedd Vivienne yn rhan o broject Adain Avion yr Olympiad Diwylliannol. Cynhyrchodd ffilm fer oedd yn archwilio’i pherthynas â’i chariad at nofio yn llynnoedd gwyllt Eryri.