Myned tua’r Modern: Hynt a Helynt Celf Haniaethol yng Nghymru
Midnight Columns II (1967)
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Golwg ar ddatblygiad paentio haniaethol yng Nghymru yn y 1950au a’r 1960au.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ynyswyd artistiaid Prydain rhag y datblygiadau celfyddydol rhyngwladol diweddaraf. Roedd traddodiad a hiraeth yn flaenllaw yng nghelf Prydain drwy gydol y 1940au a’r tirwedd a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â’r hyn yn aml.
Erbyn y 1950au roedd artistiaid Prydeinig unwaith eto’n edrych tua Paris ac Efrog Newydd lle roedd arddulliau paentio haniaethol newydd yn blaguro.
Roedd mudiadau fel Argraffiadaeth Haniaethol America yn ddylanwadol iawn , a ffafriai nifer o artistiaid blaengar Prydain waith haniaethol dros waith cynrychioliadol.
Yn llygaid y cyhoedd fodd bynnag, roedd paentio haniaethol yn parhau yn bwnc dadleuol, gan ei fod yn esiampl o ddiffyg hygyrchedd celf fodern i nifer.
Yn wyneb y gwrthwynebiad hwn, cafodd nifer o artistiaid eu sbarduno i ffurfio grwpiau i gefnogi a hyrwyddo gwerthoedd celf fodern, haniaethol.
Yng Nghymru, mae’n debyg taw’r mudiad pwysicaf a ffurfiwyd gan artistiaid i hyrwyddo celf haniaethol oedd Gr?p 56 Cymru. Trefnai’r gr?p arddangosfeydd oedd yn hyrwyddo gwerthoedd cwmpasog celf fodern.
Ffurfiwyd y gr?p gwreiddiol o 12 aelod ym 1956 a’r prif nod oedd hyrwyddo gwerthoedd celf fodern drwy arddangos gwaith yr aelodau. Roedd yn blatfform pwysig i artistiaid blaengar a weithiau yng Nghymru. Roeddent am i’w gwaith gael ei weld a’i ddeall fel cyfrwng rhyngwladol oedd yn edrych y tu hwnt i ffiniau.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





