Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Myned tua’r Modern: Hynt a Helynt Celf Haniaethol yng Nghymru

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 28 Gor25 Tach 2012 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Terry Setch (b.1936)  Midnight Columns II  (1967) Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Terry Setch (1936)
Midnight Columns II (1967)
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Golwg ar ddatblygiad paentio haniaethol yng Nghymru yn y 1950au a’r 1960au.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ynyswyd artistiaid Prydain rhag y datblygiadau celfyddydol rhyngwladol diweddaraf. Roedd traddodiad a hiraeth yn flaenllaw yng nghelf Prydain drwy gydol y 1940au a’r tirwedd a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â’r hyn yn aml.

Erbyn y 1950au roedd artistiaid Prydeinig unwaith eto’n edrych tua Paris ac Efrog Newydd lle roedd arddulliau paentio haniaethol newydd yn blaguro.

Roedd mudiadau fel Argraffiadaeth Haniaethol America yn ddylanwadol iawn , a ffafriai nifer o artistiaid blaengar Prydain waith haniaethol dros waith cynrychioliadol.

Yn llygaid y cyhoedd fodd bynnag, roedd paentio haniaethol yn parhau yn bwnc dadleuol, gan ei fod yn esiampl o ddiffyg hygyrchedd celf fodern i nifer.

Yn wyneb y gwrthwynebiad hwn, cafodd nifer o artistiaid eu sbarduno i ffurfio grwpiau i gefnogi a hyrwyddo gwerthoedd celf fodern, haniaethol.

Yng Nghymru, mae’n debyg taw’r mudiad pwysicaf a ffurfiwyd gan artistiaid i hyrwyddo celf haniaethol oedd Gr?p 56 Cymru. Trefnai’r gr?p arddangosfeydd oedd yn hyrwyddo gwerthoedd cwmpasog celf fodern.

Ffurfiwyd y gr?p gwreiddiol o 12 aelod ym 1956 a’r prif nod oedd hyrwyddo gwerthoedd celf fodern drwy arddangos gwaith yr aelodau. Roedd yn blatfform pwysig i artistiaid blaengar a weithiau yng Nghymru. Roeddent am i’w gwaith gael ei weld a’i ddeall fel cyfrwng rhyngwladol oedd yn edrych y tu hwnt i ffiniau.