Diwrnod i'r Teulu: Stargazing Live
Diwrnod o hwyl i’r teulu ar thema’r gofod!
I ddathlu'r rhaglen deledu boblogaidd Stargazing Live, fydd yn dychwelyd i BBC 2 yr wythnos hon, byddwn yn cynnal diwrnod llawn hwyl o weithgareddau, sgyrsiau ac arddangosiadau arallfydol am ddim i’r teulu cyfan.
Bydd cyfle i glywed sgyrsiau ar y gofod gan yr Athro Mike Edmunds (12pm), 'Pryd wnawn ni ddarganfod bodau eraill yn y Bydysawd?' a Dr Chris North (2pm), 'Pwy wnaeth y sêr uwchben?' yn ogystal â dysgu am ddarganfyddiadau newydd o Arsyllfa Ofod Herschel.
Carreg leuad
Profwch serydda drwy’r oesoedd a dysgu sut beth fyddai edrych trwy delesgopau cynnar Galileo a Newton, a’u cymharu â thechnoleg telesgopau heddiw!
Ydych chi’n credu eich bod chi wedi canfod gwibfaen? Dewch â’r garreg i’r Amgueddfa i’n gwyddonwyr gael ei harchwilio.
Archwiliwch gasgliad yr Amgueddfa o wibfeini a defnyddio’n efelychwr trawiad i weld effaith gwibfaen yn taro eich tref!
Dysgwch sut y gall ysgolion ddefnyddio telesgopau robotig enfawr gyda Phroject Telesgop Faulkes neu dilynwch daith gwis drwy oriel Esblygiad Cymru i ganfod carreg leuad a gasglwyd gan ofodwyr Apollo 12.
Gwelwch sut fyddai pobl yn gweld y sêr yn y gorffennol cyn gwneud patrymau sêr eich hun mewn gweithdai cytserau ymarferol. Gwelwch fodel anferth o’ system solar, a dysgwch am gymdeithasau serydda lleol.
Ar y cyd â BBC Stargazing Live 2013.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





