Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd

Tu ôl i’r Llenni: Archaeoleg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 22 Ion 2013, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd. Ffoniwch (029) 2057 3148 am gyngor.

Mae’r Cynllun Henebion Cludadwy (CHC) yn gweithio gydag aelodau o’r cyhoedd i gofnodi darganfyddiadau archaeolegol pwysig. Gall unrhywun gael at y wybodaeth am y canfyddiadau ar fas data ar-lein (finds.org.uk).

Dewch am dro tu ôl i’r llenni i ddysgu am y canfyddiadau archaeolegol diweddaraf, yng Nghymru a thu hwnt.