Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
[delwedd: Claddu Ffynon Beuno]
Claddu Ffynon Beuno
[delwedd: Paentiad o gladdedigaeth ddefodol Palaeolithig yn Pavilan Cave, Gŵyr;]
Paentiad o gladdedigaeth ddefodol Palaeolithig yn Pavilan Cave, Gŵyr;
Neanderthaliaid diweddar a dynion modern cynnar yng Nghymru
Rhwng 45,000 a 30,000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, roedd yn anodd iawn byw ym Mhrydain.
O bryd i’w gilydd, byddai grwpiau bach o Neanderthaliaid diweddar a helwyr-gasglwyr modern cynnar yn ymweld â’r wlad yn ystod yr ysbeidiau byr ac achlysurol pan fyddai’r hinsawdd yn llai garw.
Ogofâu Cymru yw safleoedd archaeolegol pwysicaf y cyfnod, ac yma y ceir y mwyaf o wybodaeth am y cyfnod. Mae’r rheini sydd â diddordeb yn y gorffennol pell wedi eu harchwilio am o leiaf dwy ganrif.
Bydd y sgwrs hon yn disgrifio’r hyn a wyddom ar hyn o bryd am ymwelwyr yr Oes Iâ a’u byd. Bydd yn canolbwyntio ar y gwaith ymchwil diweddar ar hen gasgliadau ogof – sydd, lawer ohonynt, ym meddiant Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – ac ar gloddiadau diweddar a gynhaliwyd ar rai o’r safleoedd hyn.
Gyda Dr Rob Dinnis, project Ancient Human Occupation of Britain.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau