Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd
Tu ôl i’r Llenni: y Llyfrgell
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 29 Ion 2013,
1.05pm
[delwedd: Llyfrgell Amgueddfa Cymru]
Mae casgliadau arbennig y Prif Lyfrgell yn cwmpasu ystod eang o bynciau. Bydd y cyntaf o dair taith yn ystod 2013 yn edrych ar y llyfrau hanes natur cynnar, llyfrau lluniau’n bennaf, a rhan o Gymynrodd Willoughby Gardner fwy na heb.
Mae’r llyfrau’n dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif i’r ddeunawfed ganrif ac maent yn cynnwys rhai o’r llysieulyfrau cyntaf i gael eu hargraffu, yn ogystal â dau o’r llyfrau ceinaf ar loÿnnod byw gydag engrafiadau a liwiwyd â llaw.
Yn ystod y daith, caiff rôl y Llyfrgell o fewn yr Amgueddfa ei hesbonio hefyd.
Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd. Ffoniwch (029) 2057 3148 am gyngor.
Mwy am y Llyfrgell
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau