Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd

Tu ôl i’r Llenni: y Llyfrgell

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 29 Ion 2013, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Llyfrgell Amgueddfa Cymru

Mae casgliadau arbennig y Prif Lyfrgell yn cwmpasu ystod eang o bynciau. Bydd y cyntaf o dair taith yn ystod 2013 yn edrych ar y llyfrau hanes natur cynnar, llyfrau lluniau’n bennaf, a rhan o Gymynrodd Willoughby Gardner fwy na heb.

Mae’r llyfrau’n dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif i’r ddeunawfed ganrif ac maent yn cynnwys rhai o’r llysieulyfrau cyntaf i gael eu hargraffu, yn ogystal â dau o’r llyfrau ceinaf ar loÿnnod byw gydag engrafiadau a liwiwyd â llaw.

Yn ystod y daith, caiff rôl y Llyfrgell o fewn yr Amgueddfa ei hesbonio hefyd.

Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd. Ffoniwch (029) 2057 3148 am gyngor.

Mwy am y Llyfrgell