Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd

Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 16 Ion 2013, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

O dywod i hylif hynod oer – math o alcemi: gwydr yn oes y Rhufeiniaid

Gyda Dr Denise Allen, Isgyfarwyddwr, Andante Travels.

Mae gwydr yn ddeunydd prydferth, amlddefnydd a dirgel – nid yw’n solid mewn gwirionedd ond ‘hylif tra-oeredig’ – ac nid yw gwyddonwyr yn deall natur y deunydd yn iawn hyd heddiw.

Caiff ei greu o gynhwysion rhad a chyffredin – tywod a soda naturiol – gaiff eu gweddnewid yn ddeunydd tryloyw ac yn ffurfiau di-ri. Meistrolodd y Rhufeiniaid dechnegau masgynhyrchu gwydr, gan greu llestri gwydr chwyth oedd o fewn cyrraedd i bawb.

Denise Allen, sydd wedi bod yn astudio gwydr Rhufeinig ers nifer o flynyddoedd, fydd yn esbonio sut y datblygodd y diwydiant gwydr cynnar ac at beth y cai ei ddefnyddio.

Astudiodd Denise archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dilyn cwrs PhD yn chwilio am dystiolaeth o wydr a diwydiant gwydr yn y Brydain Rufeinig.

Ers hynny, mae wedi ysgrifennu adroddiadau arbenigol di-ri ar gyfer safleoedd fel Silchester a’r Baddondai Rhufeinig yng Nghaerllion, yn ogystal â llyfr i’r cyhoeddwyr Shire, Roman Glass in Britain. Bellach mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Andante Travels sy’n arbenigo mewn teithiau i’r Byd Clasurol a thu hwnt.