Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
O dywod i hylif hynod oer – math o alcemi: gwydr yn oes y Rhufeiniaid
Gyda Dr Denise Allen, Isgyfarwyddwr, Andante Travels.
Mae gwydr yn ddeunydd prydferth, amlddefnydd a dirgel – nid yw’n solid mewn gwirionedd ond ‘hylif tra-oeredig’ – ac nid yw gwyddonwyr yn deall natur y deunydd yn iawn hyd heddiw.
Caiff ei greu o gynhwysion rhad a chyffredin – tywod a soda naturiol – gaiff eu gweddnewid yn ddeunydd tryloyw ac yn ffurfiau di-ri. Meistrolodd y Rhufeiniaid dechnegau masgynhyrchu gwydr, gan greu llestri gwydr chwyth oedd o fewn cyrraedd i bawb.
Denise Allen, sydd wedi bod yn astudio gwydr Rhufeinig ers nifer o flynyddoedd, fydd yn esbonio sut y datblygodd y diwydiant gwydr cynnar ac at beth y cai ei ddefnyddio.
Astudiodd Denise archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dilyn cwrs PhD yn chwilio am dystiolaeth o wydr a diwydiant gwydr yn y Brydain Rufeinig.
Ers hynny, mae wedi ysgrifennu adroddiadau arbenigol di-ri ar gyfer safleoedd fel Silchester a’r Baddondai Rhufeinig yng Nghaerllion, yn ogystal â llyfr i’r cyhoeddwyr Shire, Roman Glass in Britain. Bellach mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Andante Travels sy’n arbenigo mewn teithiau i’r Byd Clasurol a thu hwnt.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





