Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg
[delwedd: ss Great Britain]
SS Great Britain
[delwedd: ss Great Britain]
ss Great Britain
Haearn treftadaeth: pa mor gyflym mae’n diflannu, ac oes modd ei arafu?
Gyda yr Athro David Watkinson, Adran Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd.
Roedd ein cyndeidiau’n gwneud defnydd helaeth o aloion haearn am eu bod yn ddeunyddiau perffaith ar gyfer creu offer ac ati.
Mae sialensiau technegol a moesegol cadw a rheoli treftadaeth haearn yn anferth.
Mae cannoedd o filoedd o wrthrychau haearn archaeolegol yn cael eu cadw mewn storfeydd amgueddfeydd ac mae haearn treftadaeth o’n cwmpas ni oll, yn agored i’r elfennau, mewn nodweddion pensaernïol ac adeiladol.
Dyma gipolwg ar y gwaith ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys:
- adroddiad ar broject Gwyddoniaeth a Threftadaeth mawr Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau/EPSRC sy’n archwilio pa mor gyflym mae haearn archaeolegol yn cyrydu
- astudiaethau i effeithiolrwydd triniaethau ar gyfer gwrthrychau haearn archaeolegol a gloddiwyd
- anawsterau paentio haearn gyr mewn treftadaeth bensaernïol.
Bydd hefyd yn dangos nad yw graddfa’n rhwystr i gadwraeth ddylunio, drwy dynnu sylw at ddysychiad llwyddiannus llong stêm enwog Brunel, yr ss Great Britain.
Mae Gr?p Ymchwil Metelau Fferrus Adran Archaeoleg a Chadwraeth Prifysgol Caerdydd yn mynd i’r afael yn wyddonol â rhai o’r cwestiynau cadwraeth am haearn, gyda’r nod o ddatblygu triniaethau rhagfynegol.
Yn y pen draw, bydd hyn yn arwain at reolaeth well o’n treftadaeth metel fferrus a’r defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau