Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd

Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 5 Rha 2012, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
ss Great Britain
SS Great Britain
ss Great Britain
ss Great Britain

Haearn treftadaeth: pa mor gyflym mae’n diflannu, ac oes modd ei arafu?

Gyda yr Athro David Watkinson, Adran Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd.

Roedd ein cyndeidiau’n gwneud defnydd helaeth o aloion haearn am eu bod yn ddeunyddiau perffaith ar gyfer creu offer ac ati.

Mae sialensiau technegol a moesegol cadw a rheoli treftadaeth haearn yn anferth.

Mae cannoedd o filoedd o wrthrychau haearn archaeolegol yn cael eu cadw mewn storfeydd amgueddfeydd ac mae haearn treftadaeth o’n cwmpas ni oll, yn agored i’r elfennau, mewn nodweddion pensaernïol ac adeiladol.

Dyma gipolwg ar y gwaith ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys:

  • adroddiad ar broject Gwyddoniaeth a Threftadaeth mawr Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau/EPSRC sy’n archwilio pa mor gyflym mae haearn archaeolegol yn cyrydu
  • astudiaethau i effeithiolrwydd triniaethau ar gyfer gwrthrychau haearn archaeolegol a gloddiwyd
  • anawsterau paentio haearn gyr mewn treftadaeth bensaernïol.

Bydd hefyd yn dangos nad yw graddfa’n rhwystr i gadwraeth ddylunio, drwy dynnu sylw at ddysychiad llwyddiannus llong stêm enwog Brunel, yr ss Great Britain.

Mae Gr?p Ymchwil Metelau Fferrus Adran Archaeoleg a Chadwraeth Prifysgol Caerdydd yn mynd i’r afael yn wyddonol â rhai o’r cwestiynau cadwraeth am haearn, gyda’r nod o ddatblygu triniaethau rhagfynegol.

Yn y pen draw, bydd hyn yn arwain at reolaeth well o’n treftadaeth metel fferrus a’r defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.