Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Oedolion / Am ddim

Tu ôl i’r Llenni: Bioamrywiaeth

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 4 Rha 2012, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Dewch tu ôl i’r llenni yn ein Hadran Bioamrywiaeth i gwrdd â gwyddonwyr yr amgueddfa a chael profiad ymarferol o’u gwaith. Dyma gyfle i ddysgu mwy am ein gwaith ymchwil a’r casgliadau sydd yn ein gofal.  Bydd y pynciau’n newid bob mis.

'Beth gafodd y dylluan i ginio?'

Ewch i’r Storfa Fertebriaid i weld rhai o’n sbesimenau mwyaf newydd a’n casgliad o sgerbydau. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael cip ar rai sbesimenau yn cael eu paratoi ar gyfer eu harddangos. Bydd y daith yn gyfle i chi ddysgu beth gafodd y dylluan i ginio.

Astudiwch y penglogau a’r gorfannau ym maw y dylluan a darganfod i ba anifeiliaid yr oedden nhw’n perthyn drwy eu cymharu â delweddau o sbesimenau o’r casgliadau.

Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd. Ffoniwch (029) 2057 3148 am gyngor.