Tu ôl i’r Llenni: Bioamrywiaeth
Dewch tu ôl i’r llenni yn ein Hadran Bioamrywiaeth i gwrdd â gwyddonwyr yr amgueddfa a chael profiad ymarferol o’u gwaith. Dyma gyfle i ddysgu mwy am ein gwaith ymchwil a’r casgliadau sydd yn ein gofal. Bydd y pynciau’n newid bob mis.
'Beth gafodd y dylluan i ginio?'
Ewch i’r Storfa Fertebriaid i weld rhai o’n sbesimenau mwyaf newydd a’n casgliad o sgerbydau. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael cip ar rai sbesimenau yn cael eu paratoi ar gyfer eu harddangos. Bydd y daith yn gyfle i chi ddysgu beth gafodd y dylluan i ginio.
Astudiwch y penglogau a’r gorfannau ym maw y dylluan a darganfod i ba anifeiliaid yr oedden nhw’n perthyn drwy eu cymharu â delweddau o sbesimenau o’r casgliadau.
Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd. Ffoniwch (029) 2057 3148 am gyngor.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau