Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio

Gweithdai Telesgopau i’r Teulu

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 24 Tach 2012, 11am - 4pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Ydych chi’n ystyried prynu telesgop newydd fel anrheg Nadolig?

Neu os gennych chi un sy’n casglu llwch yng nghefn y cwpwrdd? Os oes angen cymorth arnoch i osod eich telesgop, galwch draw i’r gweithdy hwn.

Bydd aelodau Cymdeithas Seryddol Caerdydd wrth law i’ch cynghori am beth sydd orau i’w brynu p’un a ydych chi’n newydd i’r maes neu’n hen law ac am wario ychydig iawn neu ffortiwn.

Dewch â’ch telesgop llychlyd gyda chi, mae’n bosib y gallwn ni eich helpu.