Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio
BBC 'Prehistoric Autopsy'
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 8–11 Tach 2012,
11am - 4pm
I gyd-fynd â’r gyfres gan y BBC, dyma arddangosfa ymarferol fydd yn eich helpu i ddeall beth yn union yw esblygiad.
Galwch draw i weld yr atgynhyrchiadau mwyaf gwyddonol gywir erioed o’n cyndeidiau gafodd eu creu’n arbennig ar gyfer y rhaglen deledu.
Trwy ystod o arddangosiadau rhyngweithiol, dewch i weld â’ch llygaid eich hun y cliwiau sy’n creu’r darlun o ddynion a menywod cynhanesyddol - a bydd cyfle i roi tro ar gloddio!

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau