'Come Draw with Me!'
© Laura Ford
Dyma wahoddiad gan The Campaign for Drawing i ymuno â phum artist enwog – Brendan Stuart Burns, Laura Ford, Marega Palser, Stephen West a Sue Williams – am noson unigryw yn yr orielau Celf Argraffiadol a Modern. Tocynnau £25
Dewch i rannu eu hysbrydoliaeth ymhlith y casgliadau byd-enwog a hogi a datblygu eich sgiliau tynnu llun.
Dewch i ystyried 'rhythmau mewn gofod' gyda Brendan Stuart Burns wrth ichi greu darlun 3-D deinamig, a llunio naratifau gweledol llawn dychymyg yn null y swrealwyr yng nghwmni Laura Ford.
Mwynhewch ymlacio mewn gweithdy symud hwyliog gyda Marega Palser (hanner o Mr a Mrs Clark), a ymunwch â Stephen West i ailddehongli cerfluniau Epstein, Gill a Gaudier-Brzeska drwy dynnu lluniau.
Mae Sue Williams yn eich gwahodd i gwrdd â Gwen John, a fydd hefyd yn cael cwmni Rodin a David Alston yn ystod y noson,i glywed y storïau a'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'w gwaith.
Gyda chymorth STAEDTLER


Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





