Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim / I archebu lle ewch i: http://itwalesbcsxmaslecture.eventbrite.com

O Dawel Nos i Dechnoleg Heddiw... gweddnewid alawon Nadoligaidd drwy dechnoleg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 11 Rha 2012, 7pm

Cyn dyfodiad yr oes ddigidol, arferai teuluoedd eistedd o gwmpas y tân a chreu eu cerddoriaeth eu hun.

Erbyn heddiw, mae gennym beiriannau o bob math sydd wedi newid y profiad, ac sy’n helpu’r rheini ohonom sy’n cael trafferth â thonyddiaeth i fwynhau holl bleserau cerddorol yr ?yl.

Ymunwch â ni i glywed hanes hudolus technoleg a’r effaith syfrdanol ar y ffyrdd yr ydym yn creu synau, eu recordio a’u newid - o hanfodion sylfaenol cynhyrchu sain gan ddefnyddio llais i gyfrifiaduron, a rhaglenni ffôn hyd yn oed, all eich helpu i daro’r nod.

Ymunwch â’r arbenigwraig ffiseg a cherddoriaeth, Wendy Sadler, i glywed llawer o syniadau anarferol ar gyfer creu cerddoriaeth yn eich parti Nadolig chi eleni.

Darlith Nadolig gan ITWales a Chymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.