Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Codir ffi am rhai weithgareddau / Rhaid archebu ymlaen llaw ar gyfer y gweithdai: (029) 20573650

Nadolig â Llaw

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2 Rha 2012, 11am-4pm

Dyma ddiwrnod o weithgareddau all helpu i arbed ceiniog neu ddwy'r Nadolig hwn.

Archebwch le yn un o’n gweithdai tymhorol, a cymrwch adref rhywbeth unigol, mewn digonedd o amser ar gyfer Nadolig.

Creu cardiau â llaw: Dyluniwch ac addurnwch garden Nadolig hardd.

Printio papur lapio: Arbrofwch â thechnegau printio gwahanol, cyn dewis un i greu papur lapio a labeli unigryw.

Paentio gwydr: Crëwch anrheg Nadolig arbennig drwy addurno gwydryn gwin neu eitem arall. Plant: crëwch blac ystafell wely ceramig.

Gweithdai: £3 yr un yn cynnwys deunyddiau a gwersi.  Archebwch le yn y 3 gweithdy am £10 a chael taleb am de/coffi a pice ar y maen.

Digwyddiad am ddim i blant: Garlantau papur ac addurniadau coeden.

Yn ogystal, dewch i grwydro'n stondinau 'vintage'.  Bydd cerddoriaeth gan Fand Tref Blaenafon.