Pawb / Am ddim
Garddwest Castell Sain Ffagan
4 Awst,
11am - 4pm
Roedd cynnal garddwest haf yn arferiad cyffredin ym mhlastai Fictoraidd ac Edwardaidd. Byddai'n gyfle prin i holl weithwyr yr ystad ddod at ei gilydd i fwynhau. Cynhaliwyd garddwest o'r fath yma yng Nghastell Sain Ffagan yng nghyfnod y teulu Windsor-Clive ar ddechrau'r 1900au.
Dewch i gael blas ar fywyd y cyfnod hwn, o safbwynt y gweision neu'r boneddigion. Bydd cyfle i fwynhau a chymryd rhan mewn digwyddiadau o bob math.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau