Gwneud a Thrwsio: Cardiau ac Amlenni
Twriwch trwy fasgedi o hen betheuach a’u troi’n rhywbeth newydd a gwahanol yn ein gweithdai ailgylchu misol i oedolion.
Y mis hwn, byddwn yn paratoi ar gyfer y flwyddyn trwy greu cardiau ac amlenni ar gyfer achlysuron arbennig o’n tomen o hen bapur wal, llyfrau a phapurau newydd, yna’n eu haddurno gyda stampiau rwber, hen emwaith a botymau.
Darperir deunyddiau / Croeso i bawb o bob gallu.
Sylwer: mae’r sesiynau hyn ar gyfer oedolion yn unig (oed 16+), am fanylion sesiynau crefft i blant a theuluoedd ffoniwch (02920) 573600

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





