Alawon ein Gwlad
Ymunwch â’r cerddor lleol poblogaidd Helen Adam ar gyfer sesiwn gyfeillgar ac anffurfiol o ddysgu a chwarae alawon Cymreig traddodiadol.
Dewch â’ch ffidil, gitâr, ffliwt neu gonsertina, neu hyd yn oed eich tiwba, pibgodau neu lwyau! Beth bynnag eich offeryn a beth bynnag eich safon, hoffem eich gweld (a’ch clywed!).
Dewch i lenwi’r amgueddfa â hen alawon dawns Cymru gan gynnwys Rîl Llanofer, Coleg y Brifysgol Abertawe, Y Delyn Newydd a Llwyn Onn.
Bydd offerynnau ar gael i ddechreuwyr.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





