SPACE STATION 3D (U, 2002)
Dim ond ambell i unigolyn lwcus sydd wedi ymweld â hi… dyma’ch cyfle chi! SPACE STATION yw’r ffilm ofod IMAX 3D gyntaf erioed – mae ei harddwch yn syfrdanol a’r dechnoleg yn aruthrol.
Caiff cynulleidfaoedd deithio 220 o filltiroedd uwch y Ddaear ar gyflymdra o 17,500 milltir yr awr i brofi’r SPACE STATION – camp fwyaf peirianneg ers llwyddo i lanio dyn ar y lleuad.
Dyma hanes y bartneriaeth unigryw o 16 cenedl a gydweithiodd i adeiladu labordy yn y gofod – cyfleuster parhaol er mwyn astudio effeithiau hirdymor bod heb ddisgyrchiant dros gyfnod hir a’r camau angenrheidiol cyntaf at y cydweithio byd-eang sydd ei angen os yw dyn yn mynd i droedio’r blaned Mawrth.
Dyma hanes sialensiau, rhwystrau a buddugoliaethau, ac yn y pen draw, cyd-lwyddiant rhyngwladol y dynion a’r menywod sy’n anelu am y sêr.
(47 munud)

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





