Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio
Thaumotropau a Phenakistosgopau
Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 11–15 Chwe 2013,
12 - 3.30pm
[delwedd: ]
Haws gwneud na dweud! Ymunwch â ni ar gyfer ein gweithgaredd hanner tymor i roi tro ar greu’r teganau animeiddio cynnar hyn.
Tegan poblogaidd o Oes Fictoria yw’r thaumatrop gyda disgen â chanddi luniau ar y ddwy ochr a gaiff ei chlymu at ddau ddarn o linyn. O droi’r llinynnau’n gyflym gyda’ch bysedd, bydd y ddau lun yn edrych fel un.
Mae’r Phenakistosgop, neu ddisgen hud, yn degan poblogaidd arall. Glynir disg yn fertigol wrth handlen gyda chyfres o ddarluniau wrth ei chanol a holltau o gwmpas ei ymyl. O’i droi o gwmpas ac edrych ar y drych drwy’r holltau, bydd yn creu effaith llun sy’n symud.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau