John Neville Foulkes
Detholiad o waith yr artist a’r cerflunydd, y diweddar John Neville Foulkes (1937-1997.
Ac yntau’n frodor o Lanberis, treuliodd Neville Foulkes flynyddoedd lawer yn gweithio’n Chwarel Lechi Dinorwig.
Cafodd hyn effaith ddwys ar ei feddyliau a’i syniadau, sy’n amlwg yn yr arddangosfa hon.
Rhan fach yn unig o’i gasgliad helaeth o gerfluniau, printiau a phaentiadau sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon.
Mae nifer o baentiadau o ddynion y chwarel i’w gweld – gwelir ôl ofn ar wynebau rhai ohonynt wrth iddynt sefyll yn rhythu ac yn aros am y newyddion gwaethaf posibl yn y chwarel.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





