‘Bling!’ – Dysgu drwy Ddiwylliant a Chreadigrwydd
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Mae’r arddangosfa hon yn lwyfan i’r gwaith bywiog, llawn afiaith a gynhyrchwyd gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru, pob un yn ymdrin â’r thema ‘Bling!’ mewn ffordd wahanol.
Rydyn ni wedi edrych ar sut y caiff metel gwerthfawr, trysor ac addurn eu defnyddio i gyfleu chwaeth, delwedd a statws personol.
Gweithiodd pob gr?p gydag artist i greu eu ‘bling’ eu hunain – unrhywbeth o fodrwy syml i fwclis mawr cymhleth neu fideos cerddoriaeth a chelf graffiti.
Cafodd y grwpiau gyfle i weld tu ôl i’r llenni yn ein Hamgueddfeydd ac archwilio’r gemwaith, yr arteffactau a’r gemau gaiff eu cadw yn y casgliadau.
Gallwch chithau weld rhai o’r dylanwadau yn eu gwaith, yn y glo sydd fel ‘aur du’ neu ‘bling mewn celf’.
Gallwch weld arddangosfeydd ‘Bling!’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.
Dyma broject Cymru-gyfan ar gyfer pobl ifanc dan nawdd Amgueddfa Cymru a Chronfa Ganlyniadau Cymunedau’n Gyntaf.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau